Yr olygfa dros Harwell
Yr olygfa o'r Rutherford Appleton Laboratory
Neithiwr, es i i'r campws gwyddonol Harwell. Maen nhw'n dathlu wyth deg mlynedd ers eu sefydlu, felly mae llawer o ddigwyddiadau ganddyn nhw eleni. I groesawu'r flwyddyn newydd, saethodd y Diamond Light Source laser i mewn i awyr y nos.



Mae'r Diamond Light Source
Roedd e'n ddiddorol i fi achos ro'n i'n disgwyl pelydr un lliw. Roedd pelydrau golau coch, gwyrdd a glas, ond golau gwyn hefyd. Roeddwn i'n meddwl taw dim ond un lliw o olau oedd yn bosibl gyda laser, achos mae'n olau sy'n cael ei fwyhau ar yr un amledd. Rhaid i fi ddysgu mwy.
Heddiw, dysgais i
amledd - frequency. Dyw hi ddim yn air dw i'n ei ddefnyddio gydag amledd mawr.
mwyhau - increase neu augment, ond yma amplify.
sefydlu - to establish, achos mae 'cael eu geni' yn anthropomorffig.